Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad


Lleoliad:

Fideogynadledda drwy Zoom

Dyddiad: Dydd Llun, 15 Rhagfyr 2025

Amser: 13.30 - 14.19
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
15464


O bell

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Mike Hedges AS (Cadeirydd)

Alun Davies AS

Samuel Kurtz AS

Adam Price AS

Tystion:

 

Staff y Pwyllgor:

P Gareth Williams (Clerc)

Owain Davies (Ail Glerc)

Tom Lewis-White (Ail Glerc)

Gerallt Roberts (Ail Glerc)

Elizabeth Foster (Dirprwy Glerc)

Megan Ford (Dirprwy Glerc)

Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Esgusododd Samuel Kurtz AS ei hun o eitem 2.

</AI1>

<AI2>

2       Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7

</AI2>

<AI3>

2.1   SL(6)684 - Cod Ymarfer ar Sicrhau Ansawdd a Rheoli Perfformiad, Uwchgyfeirio Pryderon a Chau Gwasanaethau, mewn perthynas â Gwasanaethau Gofal a Chymorth Rheoleiddiedig

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI3>

<AI4>

3       Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

</AI4>

<AI5>

3.1   SL(6)682 - Rheoliadau’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2025

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI5>

<AI6>

3.2   SL(6)685 - Rheoliadau Addysg (Cyrsiau Addysg Uwch Penodedig) (Cymru) 2025

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI6>

<AI7>

3.3   SL(6)689 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2025

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI7>

<AI8>

3.4   SL(6)690 - Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2025

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

</AI8>

<AI9>

4       Offerynnau sy’n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes

</AI9>

<AI10>

4.1   SL(6)681 – Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau ac Ymddygiad Aelodau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

</AI10>

<AI11>

5       Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

</AI11>

<AI12>

5.1   Gohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru: Cyfarfodydd grwpiau rhyngweinidogol

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai mewn perthynas â chyfarfod o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Etholiadau a Chofrestru.

</AI12>

<AI13>

5.2   Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cychwyn Rhif 4) 2025

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg.

</AI13>

<AI14>

5.3   Gohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau REACH (Diwygio) 2026

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

</AI14>

<AI15>

6       Papurau i’w nodi

</AI15>

<AI16>

6.1   Gohebiaeth oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog dros Gyflawni: Bil Cynllunio (Cymru) a Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru)

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni.

</AI16>

<AI17>

6.2   Gohebiaeth oddi wrth Mark Isherwood AS: Ymateb yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil i adroddiad y Pwyllgor ar y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru)

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Mark Isherwood AS.

</AI17>

<AI18>

6.3   Gohebiaeth at y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig a’r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni: Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27

Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig a’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni.

</AI18>

<AI19>

7       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw

Derbyniwyd y cynnig.

</AI19>

<AI20>

8       Y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru): Adroddiad drafft

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft ar y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) yn amodol ar newidiadau bach i'w cytuno gan y Cadeirydd y tu allan i'r Pwyllgor.

</AI20>

<AI21>

9       Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd): Adroddiad drafft

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd) yn amodol ar newidiadau bach i'w cytuno gan y Cadeirydd y tu allan i'r Pwyllgor.

</AI21>

<AI22>

10    Y Bil Cynllunio (Cymru) a’r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru):  Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor

Trafododd a chytunodd y Pwyllgor ar drefn ystyried trafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor ar y Bil Cynllunio (Cymru) a’r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru).

</AI22>

<AI23>

11    Cytundebau Rhyngwladol

Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan Ymchwil y Senedd ar y Cytundebau Rhyngwladol diweddaraf a osodwyd yn Senedd y DU, a chytunwyd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

</AI23>

<AI24>

12    Craffu ar y Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau): Adroddiad drafft

Esgusododd Samuel Kurtz AS ei hun o drafod yr adroddiad drafft hwn. Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i gynnal cyfarfod ychwanegol ddydd Mercher 17 Rhagfyr i'w drafod ymhellach.

</AI24>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>